2 Chronicles 9

Ymweliad Brenhines Sheba

(1 Brenhinoedd 10:1-13)

1Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario sbeisiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl. 2Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi. 3Roedd brenhines Sheba wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. A hefyd wrth weld y palas roedd wedi ei adeiladu, 4y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r Arglwydd yn y deml. 5A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti. 6Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb mawr yn fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i. 7Mae'r bobl yma wedi eu bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di. 8Bendith ar yr Arglwydd dy Dduw wnaeth dy ddewis di i deyrnasu ar ei ran! Am fod dy Dduw yn caru Israel ac eisiau iddyn nhw aros am byth, mae wedi dy wneud di yn frenin, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.” 9A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon. 10(Hefyd roedd gweision Huram, gyda help gweision Solomon, wedi cario aur o Offir, a llwythi lawer o goed algwm, a gemau gwerthfawr. 11Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr Arglwydd a palas y brenin o'r pren algwm, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Doedd neb wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw yng ngwlad Jwda cyn hynny!) 12Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano – mwy nag roedd hi wedi ei roi i'r brenin. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.

Cyfoeth Solomon

(1 Brenhinoedd 10:14-25)

13Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn, 14heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr a'r farchnad sbeis. Roedd holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau hefyd yn rhoi arian ac aur i Solomon.

15Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian! 16Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dwy cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus. 17Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur pur. 18Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd stôl droed aur o'i blaen a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr. 19Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi! 20Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny. 21Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr
9:21 llongau masnach mawr Hebraeg, “Llongau Tarshish”, sef porthladd yn Sbaen.
gyda gweision Huram yn eu hwylio. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
9:21 peunod neu babŵns.

22Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman. 23Ac roedd brenhinoedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr Arglwydd wedi ei roi iddo. 24Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.

25Roedd gan Solomon stablau i bedair mil o geffylau cerbyd rhyfel, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw nhw yn rhai trefi penodol ac yn Jerwsalem. 26Roedd yn rheoli'r holl wledydd o Afon Ewffrates i wlad y Philistiaid, i lawr at y ffin gyda'r Aifft. 27Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. 28Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a'r gwledydd eraill i gyd.

Crynodeb o deyrnasiad Solomon

(1 Brenhinoedd 11:41-43)

29Mae gweddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn Negeseuon y Proffwyd Nathan, Proffwydoliaeth Achïa o Seilo a Gweledigaethau y Proffwyd Ido am Jeroboam fab Nebat. 30Roedd Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd. 31Pan fuodd Solomon farw, dyma nhw'n ei gladdu e yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Copyright information for CYM